Mae’r treisiwr Joseph McCann wedi cael 33 dedfryd oes am ymosodiadau ar 11 o fenywod a phlant, ac fe fydd e dan glo am o leiaf 30 o flynyddoedd.

Clywodd yr Old Bailey fod y lleidr 34 oed wedi cael ei ryddhau o’r carchar yn dilyn camgymgeriad gan y gwasanaeth prawf, ddeufis cyn y gyfres o ymosodiadau.

Roedd e wedi bod yn cymryd cocên ac yn yfed fodca cyn yr ymosodiadau dros gyfnod o 15 diwrnod yn ardaloedd Watford, Llundain a gogledd-orllewin Lloegr.

Roedd y plant a’r menywod i gyd rhwng 11 a 71 oed.

Manteisiodd e ar gysylltiadau ledled Lloegr i ddianc rhag yr heddlu, er eu bod nhw wedi ei amau ers diwrnod ei ymosodiad cyntaf.

Fe wrthododd e fynd i’r Old Bailey ar gyfer yr achos llys, gan guddio’i wyneb o dan flanced carchar.

Mae’r barnwr wedi awgrymu cynnal ymchwiliad i ddarganfod sut a pham y cafodd ei ryddhau o’r carchar cyn yr ymosodiadau.