Mae’r Ceiwadwyr wedi gaddo torri trethi i deuluoedd mewn cyllideb fis Chwefror yn dilyn Brexit.

Daw hyn wrth i’r blaid osod cynlluniau am eu 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth.

Maent wedi gaddo codi trothwy cyfraniad yswyriant gwladol i £9,5000 gan “uchelgais yn y pendraw” o’i godi i £12,500, fydd yn “rhoi bron i £500 y flwyddyn ym mhocedi pobl,” yn ôl maniffesto’r blaid.

Honnodd Boris Johnson mai 2020 fydd “y flwyddyn lle rhown dadleuon a ansicrwydd Brexit y tu ôl i ni,” os y caiff y blaid fwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol.

Ond mae’r cynllun wedi cael ei alw’n “ffantasi pur” ac mae’r Prif Weinidog wedi cael ei gyhuddo o ddweud celwydd wrth y cyhoedd.

Honnai’r Democratiaid Rhyddfrydol y byddai llywodraeth Geidwadol yn “parhau i ffocysu’n llwyr ar Brexit, nid yn unig am y 100 diwrnod nesaf, ond am flynyddoedd i ddod”.

Dywed dirprwy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol: “Mae Boris Johnson yn dweud celwydd wrth y cyhoedd eto wrth smalio ei fod yn gallu gwireddu unrhyw un o’r addewidion yma.”