Mae Nicola Sturgeon yn gwadu honiadau y gallai addewidion etholiadol yr SNP arwain at ragor y lymder pe bai’r Alban yn mynd yn annibynnol.

Daw sylwadau prif weinidog yr Alban ar ôl i David Phillips, cyfarwyddwr cysylltiol y Sefydliad Astudiaethau Ariannol (IFS) honni y byddai’n rhaid i’r Alban “gyfri ei cheiniogau a’i phunnoedd” yn ystod degawd cyntaf annibyniaeth.

Byddai addewidion yr SNP yn golygu codi mwy o drethi neu wneud rhagor o doriadau, meddai mewn erthygl yn The Scotsman.

“Efallai ei bod yn ddealladwy, felly, nad yw maniffesto’r SNP yn tynnu’r un faint o sylw â Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol at bris eu cynigion,” meddai.

Wfftio’r honiadau

Ond mae Nicola Sturgeon wedi wfftio’r honiadau yn ystod ymweliad â Midlothian.

“Mae gen i’r parch mwyaf at yr IFS ond dw i’n credu mewn nifer o achosion fod yna rai agweddau lle nad ydyn nhw’n eu cyfrif yn iawn,” meddai.

“Yn y lle cyntaf, mae yna gwestiwn o wneud maniffesto San Steffan yn berthnasol i’r Alban annibynnol, nid am nad yw’r pethau hyn yn bethau y byddem ni’n eu gwneud – mi fydden ni – ond oherwydd y byddai gan yr Alban annibynnol nifer o arfau wrth law i dyfu ein heconomi’n gynt nad ydyn nhw gyda ni ar hyn o bryd.”

Ac mae hi’n dweud y byddai gweithredu argymhellion y Comisiwn Twf i barhau i wario dros y degawd diwethaf wedi atal llymder yn gyfan gwbwl.

“Y wers yn y fan hyn yw po fwyaf o rym sydd gan yr Alban, po fwyaf o’r arfau annibynnol fyddai gyda ni,” meddai wedyn.

“Ac yna, mwya’n y byd y gallen ni geisio efelychu gwledydd o faint tebyg i’r Alban sy’n gwneud cymaint yn well, a cheisio tyfu’n heconomi’n gynt.”

Mae’n dweud nad oedd y Comisiwn Twf wedi ystyried gallu’r Alban i dyfu’r economi’n gynt –  sef “hanfod annibyniaeth”.

‘Chwalu’r ddadl’

Ond mae’r Ceidwadwyr yn dweud bod tystiolaeth yr IFS yn “chwalu dadl yr SNP tros annibyniaeth”.

“Mae hyn yn warth i Nicola Sturgeon,” meddai Murdo Fraser, llefarydd cyllid Ceidwadwyr yr Alban.

“Unwaith eto, mae hi’n ceisio’r un hen gwynion yn erbyn llymder y Deyrnas Unedig.

“Ond mae’r IFS wedi amlinellu’r ffeithiau caled – pe bai hi’n cael ei ffordd ei hun, byddai’r Alban yn wynebu dirwasgiad am ddegawd, gyda llai o arian i’r Gwasanaeth Iechyd, llai o arian i nyrsys a’r heddlu, a rhagor o doriadau i wasanaethau.

“Mae dadansoddiad yr IFS wedi chwalu dadl yr SNP.

“Mae Nicola Sturgeon yn dal i geisio trin pobol fel ffyliaid. Heddiw, mae’r esgid ar y droed arall.”