Mae canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, wedi cyhuddo Donald Trump o fod å “pgerthynas lac gyda’r gwir a realiti”.

Eto, mynnodd y byddai Jeremy Corbyn yn fodlon gweithio gydag arlywydd yr Unol Daliaethau.

Honnodd John McDonnell fod “yr holl dystiolaeth” yn pwyntio at fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar y bwrdd mewn trafodaethau masnach gyda’r Unol Daliaethau, er bod Donald Trump yn gwadu hynny.

Mynnodd Donald Trump nad yw’r Unol Daliaethau eisiau “dim i’w wneud” â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wrth iddo gyrraedd Llundain ar gyfer uwch-gynhadledd Nato ddoe (Rhagfyr 3).

Dywed John McDonnell: “Y realiti ydi fod y dystiolaeth yno ac mae’r pryderon sydd gennym am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan gyfundrefn Boris Johnson a’i berthynas â Donald Trump yn achosi gofid mawr i ni”.

“Mae gan Donald Trump berthynas llac gyda’r gwir a realiti weithiau”.