Roedd oddeutu 100 o ddynion tân yn brwydro tân mewn gwesty yng ngorllewin Llundain yn ystod oriau mân heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 4).

Cafodd y Brigad Dân eu galw am 2.52 y bore.

Cafodd 160 o bobl eu rhuthro o’r adeilad ac yn ôl Brigad Dân Llundain does neb wedi eu hanafu.

Dywed pennaeth y Stesion Dân Nathan Hobson: “Pan gyrhaeddodd y dynion tân, roeddent yn wynebu tân oedd yn tyfu’n gyflym.”

“Gwnaeth y dynion tân chwilio’r tŷ a brwydro’r tân ar y ti fewn er mwyn stopio’r tân rhag lledaenu ymhellach.”

Dyw achos y tân heb ei ddarganfod.