Mae un ddos o radiotherapi mor glinigol effeithiol â phump ar gyfer cleifion canser terfynol â thiwmorau yn yr asgwrn cefn, meddai ymchwilwyr.

Mae astudiaeth a gynhaliwyd yng Ngholeg Prifysgol Llundain yn honni nad oes llawer o wahaniaeth rhwng triniaethau radiotherapi sengl a lluosog ar gyfer y rhai sy’n datblygu cywasgiad camlas asgwrn cefn – cymhlethdod cyffredin sy’n digwydd pan fydd canser wedi lledu i’r asgwrn cefn, gan adael cleifion mewn poen ac yn methu cerdded.

Dywedodd yr ymchwilwyr y gallai eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn JAMA, helpu i leihau ymweliadau diangen ag ysbytai ar gyfer cleifion canser diwedd oes heb gyfaddawdu ar ansawdd y gofal.

Er y gall unrhyw fath o ganser ledaenu i esgyrn yr asgwrn cefn, mae cywasgiad camlas asgwrn cefn yn fwy cyffredin mewn pobl â chanserau’r fron, yr ysgyfaint, y gwaed neu’r prostad.

Mae tua phump o bob 100 o bobol â chanser yn datblygu’r cyflwr hwn, sy’n cyfateb i oddeutu 4,000 o bobol yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn.

“Dyma’r astudiaeth fawr gyntaf i asesu a yw rhoi dos sengl o ymbelydredd mewn un ymweliad yr un mor effeithiol yn glinigol â dosau lluosog,” meddai’r Athro Allan Hackshaw, o Sefydliad Canser UCL a chyd-awdur yr astudiaeth.

“Dangosodd ein treial fod un ddos yr un mor dda â sawl dos ar gyfer ystod o ganlyniadau i gleifion.”

O’r 686 o gleifion a fu’n rhan o’r arbrawf, neilltuwyd hanner ar hap i gael un ddos radiotherapi yn unig, a rhoddwyd pum dos i’r hanner arall.

Bu farw tua hanner (344) y cleifion a gymerodd ran yn yr arbrawf cyn wyth wythnos.