Mae elusennau wedi galw am weithredu gan y Llywodraeth wrth i ystadegau newydd ddangos fod pobol mewn peryg o gael problemau iechyd yn y dyfodol yn sgil gordewdra, alcohol a diet gwael.

“Mae’r cyfraddau cyson uchel o bwysau a gordewdra mewn oedolion a phlant yn adlewyrchu’r amgylchedd rydyn ni’n byw ynddo yn anffodus – un sydd yn boddi dan fwyd a diodydd afiach a marchnata di-baid sy’n dweud wrthym am brynu a bwyta mwy a mwy,” meddai Caroline Cerny, arweinydd y gynghrair yn y Gynghrair Iechyd Gordewdra.

“Ond does dim rhaid iddo fod fel hyn. Bum mlynedd ar hugain yn ôl, roedd cyfraddau gordewdra oedolion bron i hanner yr hyn ydyn nhw heddiw.

“Gall y Llywodraeth chwarae rhan hanfodol wrth lunio ein hamgylchedd bwyd i’n helpu ni i gyd i fod yn iach.

“Dyma pam mae angen i’r llywodraeth nesaf gyflwyno rheoliadau newydd ar frys i gyfyngu ar farchnata bwyd sothach a gorfodi’r diwydiant bwyd i wneud bwyd bob dydd yn llai melys a chaloriffig.”