Mae Arlywydd yr Unol Daliaethau, Donald Trump yn mynu nad yw eisiau “dim i’w wneud” â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Daw hyn yn sgil honiadau y byddai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol “ar y bwrdd” mewn trafodaethau masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Unol Daliaethau ar ôl Brexit.

Wrth siarad yn Llundain ar ddechrau uwchgynhadledd Nato, dywedodd Donald Trump ei fod am “gadw allan” o’r Etholiad Cyffredinol gan yw eisiau “cymhlethu pethau”.

Ond aeth ymlaen i ddisgrifio Boris Johnson fel “hynod alluog” cyn cyhoeddi ei fod yn bwriadu cyfarfod y Prif Weinidog yn ystod ei ymweliad â’r Deyrnas Unedig.

Gofynnwyd iddo a fyddai’r Gwasanaeth Iechyd ar y bwrdd mewn trafodaethau masnach.

Atebodd: “Na, ddim o gwbl, does gennyf ddim byd i wneud â hyn. Dwi erioed wedi meddwl am y peth.”

Cyn mynd ymlaen i ddweud: “Dwi ddim yn gwybod o le ddaeth y straeon. Does gennym ni ddim byd o gwbl i wneud â hyn, a hyd yn oed pe basach i’n ei roi i ni ar blât, faswn i ddim eisiau dim i’w wneud efo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

Jeremy Corbyn yn anfon llythyr ar Donald Trump

Anfonodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn lythyr i Donald Trump ddydd Llun (Rhagfyr 2). 

Yn y llythyr, gofynnodd am “sicrwydd” na fyddai cymrodeddwr Americanaidd yn ceisio gwthio prisiau meddyginiaethau i fyny yn y Deyrnas Unedig drwy gael mynediad i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gwmnïau Americanaidd.

Mae’r Blaid Lafur wedi honni droeon fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol “ar y bwrdd” mewn cytundeb fasnach gyda’r Unol Daliaethau.