Mae arweinwyr y prif bleidiau wedi cael eu beirniadu’n hallt am drio sgorio pwyntiau gwleidyddol wedi ymosodiad brawychol London Bridge yn y cyfnod cyn yr Etholiad Cyffredinol.

Yn dilyn cyfres o ddadleuon tanllyd dros y penwythnos rhwng Boris Johnson a Jeremy Corbyn, dywedodd y Fonesig Louise Casey – cyn-ymgynghorydd y llywodraeth ar gydlyniant cymunedol – fod y ddwy ochr yn gorsymleiddio’r mater.

Ac mae cyn-weinidog cyfiawnder y Torïaid, Phillip Lee – sydd bellach wedi mynd at y Democratiaid Rhyddfrydol – wedi ymosod ar Boris Johnson, gan ei gyhuddo o “ddweud celwydd a chamarwain” yn sgil y drasiedi.

“Nid yw’n briodol i Boris Johnson – dyn sy’n adnabyddus am ei ddiffyg manylder, i droi hyn yn wleidyddol, a gwneud sylwadau am rywbeth sy’n eithaf cymhleth mewn gwirionedd,” meddai Phillip Lee wrth asiantaeth newyddion PA.

“Mwy cymhleth”

Mae’r Torïaid wedi ceisio beio deddfwriaeth a basiwyd o dan y llywodraeth Lafur ddiwethaf am ryddhau’r ymosodwr Usman Khan yn gynnar, gan olygu ei fod wedi’i ryddhau o’r carchar hanner ffordd trwy ei ddedfryd. Fe’i cafwyd yn euog o droseddau brawychol yn 2012.

Cyhuddodd Llafur yn ei dro y Ceidwadwyr o beidio â rhoi digon o arian tuag at y gwasanaethau carchar a gwasanaethau prawf.

Mae Jeremy Corbyn hefyd wedi cysylltu’r modd y cafodd  Usman Khan  ei radicaleiddio â rhyfel Irac.

Fodd bynnag, dywedodd y Fonesig Louise Casey fod y materion yn fwy cymhleth nag yr oedd y naill ochr neu’r llall yn sylweddoli.

“Mae wedi mynd yn wleidyddol iawn, yn gyflym iawn ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd mewn carchardai,” meddai wrth The World at One ar BBC Radio 4.

Fe fu Boris Johnson a Jeremy Corbyn mewn gwylnos yn Guildhall Yard yn Llundain bore ma (dydd Llun, Rhagfyr 2) i dalu teyrnged i Jack Merritt a Saskia Jones, a fu farw pan gawson nhw eu trywanu gan Usman Khan.  Cafodd yr ymosodwr ei saethu’n farw gan yr heddlu a chafodd tri o bobol eraill eu hanafu yn y digwyddiad ddydd Gwener (Tachwedd 29).