Dynes 23 oed o Swydd Warwick oedd un o’r ddau o bobol a gafodd eu lladd yn yr ymosodiad brawychol yn Llundain ddydd Gwener (Tachwedd 29).

Roedd Saskia Jones yn gyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn dod o Stratford-upon-Avon.

Mae ei theulu’n ei disgrifio fel dynes “ddoniol, garedig ac yn ddylanwad positif wrth galon bywydau nifer o bobol”.

Dywed ei theulu ei bod hi wedi gwneud cais yn ddiweddar i ymuno â rhaglen yr heddlu ar gyfer graddedigion er mwyn arbenigo ym maes cefnogi dioddefwyr.

Daeth cadarnhad ddoe mai Jack Merritt, 25, oedd y llall a fu farw ar ôl i Usman Khan eu trywanu ar London Bridge yn dilyn cwrs ar gyfer troseddwyr oedd wedi cael ei drefnu gan Brifysgol Caergrawnt.

Mae dau o bobol eraill mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty, ac mae pumed person wedi cael mynd adref.