Mae tad dyn 25 oed a gafodd ei ladd yn ystod yr ymosodiad brawychol yn Llundain ddydd Gwener (Tachwedd 29) wedi talu teyrnged i’w fab “rhagorol”.

Roedd Jack Merritt yn un o ddau a gafodd eu lladd yn yr ymosodiad ar London Bridge, pan drywanodd Usman Khan nifer o bobol.

Yn ôl David Merritt, roedd gan ei fab “ysbryd prydferth” ac mae’n dweud ei fod e wedi dysgu mwy am ei fab yn sgil y teyrngedau iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Fyddai fy mab Jack, a gafodd ei ladd yn yr ymosodiad hwn, ddim yn dymuno i’w farwolaeth gael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer dedfrydau mwy Draconaidd neu i gadw pobol yn y ddalfa heb fod angen,” meddai ar Twitter.

“Cwsg mewn hedd, Jack: roeddet ti’n ysbryd prydferth oedd bob amser yn ochri gyda’r gwannaf.”

Teyrngedau

Roedd Jack Merritt yn gydlynydd cwrs ar gyfer rhaglen adfer carcharorion ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Roedd Usman Khan, y dyn oedd wedi ei ladd, yn mynychu’r cwrs cyn yr ymosodiad.

Mewn teyrnged ar Twitter, dywedodd y rapiwr Dave mai Jack Merritt oedd “y boi gorau” ac fe ddywedodd ei fod e’n “treulio’i fywyd yn helpu eraill”.

Cafodd gwylnos ei chynnal yng Nghaergrawnt ddoe.

“Roedd Jack yn byw yn ôl ei gredoau,” meddai ei dad.

“Fe wnaeth e sicrhau’r safonau gorau gennyf fi.

“Byddai’n disgwyl i fi ddweud hyn, ac fe fyddai wedi tynnu sylw ataf pe na bawn i wedi gwneud!

“Roedd e’n ddyn ifanc eithriadol, a dw i ond yn darganfod ei hanner hi ers iddo fe fynd.

“Dw i ddim yn teimlo fy mod i’n ysbrydoliaeth, ond roedd Jack yn sicr yn ysbrydoliaeth.”