Bydd goruchwylwyr yr heddlu yn cael eu glaw i mewn i edrych ar achos heddwas cudd roddodd dystiolaeth mewn achos llys dan enw ffug, yn ôl Scotland Yard. Mae Jim Boyling, sy’n Dditectif Gwnstabl ar weithgareddau arbenigol gyda Heddlu’r Met, wedi ei gyhuddo o ddefnyddio enw ffug tra’n ymddangos fel diffynnydd mewn achos llys, ar ôl iddo gael ei arestio ynghyd â nifer o bobol eraill yn ystod gwrthdystio yn 1996.

Fe gysylltodd Scotland Yard â Chomisiwn Cwynion yr Heddlu ddoe, “gyda’r bwriad o wneud cais ffurfiol” iddyn nhw heddiw, yn ôl llefarydd.

Mae’r penderfyniad wedi ei wneud yn sgil “gweithgarwch cudd yr heddlu yn y gorffennol”, meddai Heddlu’r Met – gweithgarwch sydd wedi gorfodi Scotland Yard i oedi cyn cyhoeddi adolygiad o weithgareddau cudd yr heddlu.

Roedd disgwyl i’r adroddiad argymell na ddylid cael arolygaeth barnwrol o weithgareddau heddlu cudd, er gwaetha’r galwadau gan rai benaethiaid yr heddlu.

Cyfaddawdu cyfrinachedd

Yn ystod yr achos llys, lle’r oedd Jim Boyling yn ymddangos fel diffynnydd – ynghyd â sawl un arall o’r ymgyrch dros seiclo ‘Reclaim the Streets’ yn 1996 – ar gyhuddiadau o darfu ar drefn gyhoeddus, fe roddodd yr heddwas cudd ei enw ffug i’r llys, sef Jim Sutton.

Ond mae’r cyfreithiwr a fu’n cynrychioli Jim Boyling a’r ymgyrchwyr eraill yn dweud fod yr achos yn codi pryderon dros yr egwyddor o “gyfrinachedd” yn y trafodaethau rhwng cyd-amddiffynyddion a’u cyfreithwyr.

Dywedodd y cyfreithiwr, Mike Schwarz o gwmni Bindmans, wrth bapur newydd The Guardian fod yr achos yn codi “cwestiynau sylfaenol ynglŷn â beth yw heddlua derbyniol, cyfrinachedd rhwng cyfreithiwr a chleient, a hygrededd y system cyfiawnder troseddol.

“Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos fod yr heddlu wedi anwybyddu pob ffin dderbyniol,” meddai’r cyfreithiwr.

Mae un o’r diffynyddion a gafodd ei ddyfarnu’n euog o ymosod ar heddwas yn ystod yr achos, ar ôl cael ei arestio yr un pryd â ‘Jim Sutton’, nawr yn apelio yn erbyn ei ddyfarniad oherwydd yr honiadau.

Neithiwr, cyfaddefodd Scotland Yard fod yr honiadau yn “fater difrifol”, cyn ychwanegu eu bod yn hyderus bod y “fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol sy’n llywodraethu swyddogion cudd yn sicrhau fod gwaith o’r fath nawr yn cael ei gynnal mewn ffordd gyfreithiol ac yn cael ei reoli’n addas.”