Mae Boris Johnson a Jeremy Corbyn wedi canslo nifer o ddigwyddiadau’n ymwneud â’u hymgyrchoedd etholiadol heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 30), ond maen nhw’n mynnu na ddylid teimlo ofn ar ôl yr ymosodiad brawychol ar London Bridge ddoe.

Cafodd dau o bobol eu trywanu i farwolaeth yn yr ymosodiad gan Usman Khan, 28, ac mae tri o bobol mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Cafodd yr ymosodwr ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Roedd disgwyl i Jeremy Corbyn fynd i uwchgynhadledd y Gwasanaeth Iechyd yn Swydd Efrog, ac roedd disgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol gymryd rhan mewn rali yn erbyn Brexit yn Llundain.

Mae Boris Johnson hefyd wedi rhoi’r gorau i’w ymgyrch am y tro.

Y broses ddemocrataidd

“Dw i’n credu ei bod yn bwysig iawn mewn democratiaeth ein bod ni’n bwrw ymlaen gyda’r broses ddemocrataidd, a dw i’n credu ei bod yn hanfodol i ni ddangos parch i’r dioddefwyr, eu teuluoedd ac yn sicr rydyn ni wedi cydnabod hynny, ac mae ymgyrchu wedi cael ei atal ac mae’r gwrthbleidiau hefyd wedi atal yr ymgyrchu yn Llundain,” meddai Boris Johnson, prif weinidog Prydain.

“Ond dw i’n credu ei bod yn bwysig iawn mewn democratiaeth nad ydyn ni’n moesymgrymu nac yn cael ein bygwth gan frawychiaeth, a’n bod ni’n bwrw ymlaen gyda’r broses ddemocrataidd arferol, a dyna fyddwn ni’n ei wneud.”

Mae Brandon Lewis, y gweinidog diogelwch, yn gwrthod dweud a yw’r ymosodiad yn dangos “methiant” yr awdurdodau, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Usman Khan wedi’i ryddhau ar drwydded fis Rhagfyr y llynedd, yn dilyn cyfnod dan glo ers 2012 am droseddau brawychol.

Ond mae’n dweud bod angen cynnal adolygiad o ddedfrydau troseddwyr brawychol.

Mae Jeremy Corbyn, yn y cyfamser, yn dweud bod rhaid “gwrthod casineb a rhaniadau”.