Mae nifer y bobl sy’n byw efo canser wedi cynyddu i tua thair miliwn yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae’r ffigyrau newydd gan elusen Ganser Macmillan y bydd 1.27 miliwn o ddynion a 1.62 miliwn o ferched yn byw efo canser yn y Deyrnas Unedig yn 2020.

Mae hyn 500,000 yn fwy o achosion nag yn 2015.

Mae’r ffigwr yn debygol o godi i bedwar miliwn erbyn 2030 ac mae rhywun yn cael gwybod bod ganddyn nhw ganser bob 90 eiliad ar gyfartaledd.

Dywed Macmillan mai poblogaeth sy’n tyfu sydd y tu ôl i’r cynnydd sy’n golygu bod mwy o bobol yn cael diagnosis o ganser, a’r ffaith bod pobol yn byw’n hirach, gyda nifer o’r achosion ymhlith yr henoed.