Mae Sir Gaerhirfryn gyfan wedi cyflwyno cais i gael ei henwi’n ‘Ddinas Diwylliant 2025’.

Yn ôl trefnwyr y cais, mae’r gystadleuaeth yn aml yn esgeuluso cymunedau cefn gwlad ac felly, mae nifer o ardaloedd wedi dod ynghyd i gyflwyno’r cais gyda’i gilydd.

Coventry fydd yn dod yn Ddinas Diwylliant yn 2021 ar ôl i gyfnod Hull ddod i ben.

Ond dydy cais Sir Gaerhirfryn ddim yn cynnwys dinasoedd Lerpwl na Manceinion, ond mae’n cwmpasu Burnley, Blackburn, Preston, Blackpool, Accrington, Morecambe, Lancaster, Fleetwood, Chorley, Clitheroe, Garstang, Ormskirk, Lytham St Anne’s a Poulton-le-Fylde.

Mae’r sir, sy’n gartref i’r stecen syrlwyn gyntaf yn 1617, yn denu dros 69m o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae’n enwog am wydr Tiffany ac am gastell hynafol Lancaster, lle cafodd achos llys y gwrachod ei gynnal yn 1612.

Yn ôl y trefnwyr, mae 80% o’r sir yn wledig, gyda 137 milltir o arfordir hefyd a does yna’r un dref neu ddinas sy’n bwysicach neu’n fwy nodedig na’r gweddill.

Ac maen nhw hefyd yn dweud na ddylid cyfyngu dinasoedd i ffiniau daearyddol neu hanesyddol.

Mae’r cais yn cael ei gefnogi gan y Blaid Lafur, sydd hefyd yn addo trefnu cystadleuaeth Tref Diwylliant pe baen nhw’n ennill yr etholiad cyffredinol.