Mae methiant pobl i drin rhifau yn costio miliynau o bunnoedd i economi’r Deyrnas Unedig bob wythnos, yn ôl elusen.

Mae angen gweithredu i ddatrys y broblem meddai’r elusen Rhifedd Gwladol mewn adolygiad newydd – maen nhw’n dweud nad yw gwleidyddion yn deall pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa.

Mae ymchwil Rhifedd Gwladol yn awgrymu bod sgiliau rhifedd gwael yn costio tua £388 miliwn bob wythnos.

“Mae yna filiynau o bobol sydd wedi colli eu holl hyder o ran rhifedd,” meddai Prif Weithredwr Rhifedd Gwladol, Mike Ellicock.