Mae Tony Blair wedi dweud y byddai llywodraeth fwyafrifol Dorïaidd neu Lafur yn “peri risg” i’r Deyrnas Unedig.

Mewn araith ar Brexit a’r Etholiad Cyffredinol, pwysleisiodd Tony Blair fod addewid y Ceidwadwyr i ddod a terfyn i gyfnod trawsnewidiad Brexit cyn diwedd 2020 gyda chytundeb neu beidio yn “risg”.

Tra ei fod hefyd o’r farn fod cynlluniau gwariant Llafur yn “risg” i’r Deyrnas Unedig.

“Mae’r ddau fel llywodraeth fwyafrifol yn peri risg. Ond mae’r siawns fod Llafur am allu gwneud hynny – os yw’r polau yn gywir – yn isel iawn,” meddai Tony Blair.

“Dw i ddim yn meddwl fod llywodraeth fwyafrifol ar yr un ochr yn beth da.”

Chuka Umunna

Dywed Tony Blair ei fod yn deall pam y byddai pobl yn pleidleisio dros Democratiaid Rhyddfrydol er ei fod yn dal yn bwriadu pleidleisio i’r Blaid Lafur.

“Dw i wedi dweud pam fod yn rhaid i mi bleidleisio i’r Blaid Lafur, gyda llaw, dw i’n teimlo fod dadl enfawr ar ei ffordd i’r Blaid Lafur,” meddai Tony Blair.

“Dw i mewn sefyllfa benodol, does dim ond un ohono’ i. Ond dw i yn gallu deall pam y byddai  pobl dw i’n eu hadnabod yn yr un etholaeth yn pleidleisio dros Chuka Umunna.”