Mae Bwrdd Criced Seland Newydd wedi ymddiheuro wrth Jofra Archer, cricedwr croenddu Lloegr, ar ôl iddo gael ei sarhau’n hiliol yn ystod y gêm brawf rhwng y ddwy wlad yn Maunganui.

Fe ddigwyddodd wrth i’r chwaraewyr adael y cae ar ôl i Seland Newydd ennill o fatiad a 65 rhediad ar ddiwedd y prawf cyntaf.

Dywed Jofra Archer, bowliwr cyflym sy’n enedigol o’r Caribî, iddo gael ei “aflonyddu” gan y digwyddiad, wrth i gefnogwr waeddu o’r dorf.

Mae Bwrdd Criced Seland Newydd yn dweud y byddan nhw’n cynnal ymchwiliad i geisio dod o hyd i’r sawl oedd yn gyfrifol, a bod ganddyn nhw bolisi o beidio â goddef unrhyw fath o iaith sarhaus.

Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn dweud nad oes lle i’r fath ddigwyddiadau yn y byd criced.