Mae nwyon tŷ gwydr wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed, mae Sefydliad Meteorolegol y Byd wedi rhybuddio.

Roedd lefelau o garbon deuocsid, sy’n bennaf gyfrifol am gynhesu byd eang, wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed yn 2018 – 407.8 rhan ym mhob miliwn, cynnydd o 405.5 rhan ym mhob miliwn (ppm) yn 2017, yn ôl adroddiad gan gorff y Cenhedloedd Unedig.

Mae hynny’n llawer uwch na’r lefel o tua 280 ppm cyn y chwyldro diwydiannol a dechrau’r cyfnod o losgi tanwydd ffosil ar gyfer ynni a thrafnidiaeth, sydd wedi achosi cynnydd yn y lefelau o garbon deuocsid yn yr atmosffer.

Roedd lefelau o nwyon tŷ gwydr eraill sy’n ychwanegu at gynhesu byd eang, methan ac ocsid nitraidd, hefyd wedi cynyddu’n fwy yn 2018 nag yn y degawd diwethaf.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Sefydliad Meteorolegol y Byd,  Petteri Taalas, nad oedd unrhyw arwyddion bod lefelau nwyon tŷ gwydr “yn arafu, heb son am ostwng” a hynny er gwaetha’r holl

ymrwymiadau o dan Gytundeb Paris ar Newid Hinsawdd.

Mae angen gweithredu ar yr ymrwymiadau “er mwyn diogelu lles y ddynol ryw” ychwanegodd.