Mae Llafur yn addo helpu oddeutu 3.7m o fenywod sydd wedi cael eu heffeithio gan y newid yn yr oed pensiwn gwladol.

Wrth wneud addewid etholiadol, dywed John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, fod y Blaid Lafur am “anrhydeddu” menywod a gafodd eu geni yn y 1950au.

Fe allai arwain at ddosbarthu £58bn dros gyfnod o bum mlynedd, gyda thaliadau unigol gwerth rhwng £15,380 a £31,300.

Mae’n dilyn ymgyrch gan “fenywod Waspi” ac fe wnaeth un ohonyn nhw herio Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn ystod dadl deledu’r wythnos ddiwethaf.

Dydy Boris Johnson ddim wedi addo unrhyw arian iddyn nhw, gan ddweud na allai gyflawni “hud a lledrith”.

Cynllun

Ond mae gan y Blaid Lafur gynllun i helpu’r menywod hyn, meddai John McDonnell, sy’n dweud bod y menywod wedi dioddef “canlyniadau ariannol difrifol”.

“Mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu taro gan gyfuniad o dlodi a straen, ar ôl colli allan ar yr hyn roedden nhw wedi cyfrannu tuag ato,” meddai.

“Cafodd y newidiadau hyn eu gorfodi arnyn nhw gan lywodraeth oedd wedi cael ei harwain gan y Torïaid.

“Felly mae arnon ni ddyled iddyn nhw i’w hanrhydeddu a phan awn ni i’r llywodraeth, rydyn ni am weithredu ar y ddyled honno.”