Llun: Safle clwb nos Lava & Ignite
Mae clwb nos lle cafodd merch 22 oed ei sathru i farwolaeth yn ystod noson allan wedi gorfod cau  tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Cafodd y fyfyrwraig ym Mhrifysgol Northampton, Nabila Nanfuka, ei lladd yn dilyn digwyddiad yng nghlwb nos Lava and Ignite yn Northampton, yn yr oriau mân fore ddoe.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad am 3.30am bore ddoe, ac maen nhw nawr yn ymchwilio i honiadau bod larwm tân wedi achosi i bobol  ruthro allan o’r clwb, wedi iddyn nhw gael eu rhybuddio fod eu bysiau adref ar fin gadael.

Heddiw, fe benderfynodd pwyllgor trwyddedu Cyngor Bwrdeistref Northampton i wahardd trwydded y clwb yn ystod yr ymchwiliad i’r digwyddiad.

Daw’r gwaharddiad ar drwydded y clwb nos wedi i’r heddlu gyflwyno tystiolaeth i bwyllgor trwyddedu’r cyngor.

Wrth gyflwyno’r dystiolaeth, dywedodd PC David Bryan, fod pobol wedi mynd i banig oherwydd y dyrfa tu fewn, ac wedi i ymladd ddechrau ar y grisiau.

Cafodd dwy ddynes arall hefyd eu hanafu yn y digwyddiad, ac maen nhw’n cael triniaeth  yn Ysbyty Cyffredinol Northampton ar hyn o bryd.