Cyhoeddodd Jeremy Corbyn mewn dadl deledu neithiwr y byddai’n aros yn niwtral mewn refferendwm ar unrhyw gytundeb newydd ar Brexit.

Mae ail-drafod cytundeb gadael rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd, ac wedyn cynnal refferendwm arno, wedi bod yn bolisi swyddogol Llafur ers blwyddyn a mwy. Er hyn, roedd yr arweinydd wedi cael ei feirniadu a’i wawdio’n hallt am wrthod dweud tan neithiwr lle byddai’n sefyll mewn pleidlais o’r fath.

“Os byddaf yn brif weinidog ar y pryd, byddaf yn gwneud safiad niwtral fel y gallaf weithredu canlyniadau’r bleidlais honno i ddod â’n cymunedau a’n gwlad at ei gilydd, yn hytrach na pharhau dadl ddiddidwedd am yr Undeb Ewropeaidd a Brexit,” meddai.

Roedd yn cymryd rhan mewn dadl deledu BBC Question Time yn erbyn y prif weinidog Boris Johnson, Jo Swinson, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, a Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban.

Cafodd Boris Johnson ei wawdio gan y gynulleidfa am wrthod ymddiheuro am sylwadau dadleuol mae wedi ei wneud yn y gorffennol fel dweud bod merched Mwslimaidd sy’n gwisgo niqab yn edrych fel ‘blychau llythyrau’.

Roedd hefyd yn ymddangos fel petai’n anfodlon ateb cwestiynau ar doriadau i fudd-daliadau ac am y gwasanaeth iechyd ac yn cythruddo aelodau o’r gynulleidfa wrth geisio troi pob trafodaeth yn ôl at Brexit.