Mae cyfreithiwr sy’n cynrychioli nifer o ddioddefwyr Jeffrey Epstein yn dweud y gallai Dug Caerefrog, y Tywysog Andrew, gael ei orfodi i roi tystiolaeth am ei berthynas â’r dyn busnes y tu allan i lys.

Dywed Lisa Bloom fod gan gyfreithwyr yr hawl i rhoi gwys i dystion ddod i roi tystiolaeth o dan lw, ond y tu allan i lys barn.

Ond mae’n dweud na fyddai’n hawdd gweithredu proses o’r fath gydag aelod o’r teulu brenhinol, sy’n annhebygol o gael ei weld yn aml mewn bywyd cyhoeddus, ac y gallai arwain at sefyllfa ddiplomyddol.

Fe ddaw ar ôl i’r teulu brenhinol gyhoeddi na fydd e’n cyflawni unrhyw ddyletswyddau swyddogol o ganlyniad i’r helynt.

Mae Dug Caerefrog dan bwysau yn dilyn cyfweliad ar raglen Newsnight y BBC am ei berthynas â’r dyn busnes oedd yn wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyw cyn lladd ei hun yn y ddalfa.

Mae nifer o sefydliadau wedi ymbellhau oddi wrth y Dug yn sgil ei berthynas â Jeffrey Epstein, ac mae rhai yn beirniadu ei ddiffyg cydymdeimlad â dioddefwyr a’u teuluoedd.

Y cyfweliad

Yn ystod y cyfweliad, fe wnaeth e wadu ei fod e wedi cael rhyw â Virginia Giuffre, un o’r dioddefwyr, gan gynnwys ar ddau achlysur pan oedd hi’n dal yn blentyn.

Mae’n gwadu iddo gyfarfod â hi yn 2001 gan iddo dreulio’r diwrnod yn Pizza Express yn Woking gyda’i deulu.

Fe fu cryn drafod am honiadau fod y Dug yn chwysu’n sylweddol yn ystod y cyfarfod â hi, ond mae meddygon yn dweud bod ganddo fe gyflwr sy’n golygu nad yw e’n gallu chwysu.

Yn ystod y cyfweliad, roedd e’n gwrthod dweud ei fod e’n difaru ei gyfeillgarwch â Jeffrey Epstein.