Roedd perfformiadau Boris Johnson a Jeremy Corbyn gystal â’i gilydd yn ôl gwylwyr y ddadl deledu gyntaf cyn yr Etholiad Cyffredinol, yn ôl pôl piniwn.

Yn ôl YouGov, roedd ymateb y cyhoedd yn awgrymu mantais o 51%-49% i brif weinidog Prydain, ond roedd Llafur yn fodlon â pherfformiad eu harweinydd.

Byddan nhw’n mynd ben-ben â’i gilydd a’r arweinwyr eraill yn yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Brexit a materion eraill

Bu cryn ddadlau ar ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, gyda Jeremy Corbyn yn disgrifio addewid y Prif Weinidog i “gwblhau Brexit” erbyn diwedd mis Ionawr fel “nonsens”.

Ac fe awgrymodd Boris Johnson nad yw Jeremy Corbyn yn “ffit i arwain ein gwlad.”

Cyhuddodd Jeremy Corbyn y Llywodraeth Geidwadol o gynnal trafodaethau cyfrinachol gyda’r Unol Daleithiau, gan agor y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gwmnïau fferyllol Americanaidd.

Ond mynnodd Boris Johnson nad oedd “unrhyw amgylchiadau” lle byddai llywodraeth Geidwadol yn rhoi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol “ar y bwrdd” mewn trafodaethau masnach.

Mae pôl opiniwn YouGov hefyd yn dangos bod Boris Johnson yn debycach i rywun fyddai’n brif weinidog, ond fod pobol yn ei chael hi’n haws ymddiried yn Jeremy Corbyn.

Anrhegion Nadolig

Ar nodyn ysgafnach, fe wnaeth y ddau arweinydd ddweud beth fydden nhw’n ei gynnig yn anrheg Nadolig i’w gilydd.

Dywedodd Jeremy Corbyn y byddai’n cynnig copi o’r nofel A Christmas Carol gan Charles Dickens i Boris Johnson er mwyn iddo “ddeall pa mor gas oedd Scrooge”.

Dywedodd Boris Johnson y byddai’n cynnig “copi o’m cytundeb Brexit gwych” i Jeremy Corbyn, cyn newid ei feddwl a chynnig pot o jam damson iddo.