Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo gwario £10bn y flwyddyn yn ychwanegol, a sicrhau 20,000 yn rhagor o athrawon fel rhan o’u cynlluniau etholiadol.

Mae’r blaid yn lansio’u maniffesto heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 20), gan addo gwyrdroi toriadau i ysgolion a gafodd eu cyflwyno yn 2015 drwy neilltuo £4.6bn y flwyddyn nesaf.

Dywed y blaid y bydden nhw’n gwario £10.6bn yn fwy ar ysgolion erbyn 2024-25 nag sy’n cael ei wario ar hyn o bryd.

Fe fyddai’r arian hwnnw’n cael ei neilltuo ar gyfer recriwtio rhagor o athrawon, meddai.

Fe fydden nhw’n sicrhau cyflogau cychwynnol o £30,000 i athrawon, ac yn rhoi codiad cyflog o 3% y flwyddyn dros gyfnod o bum mlynedd.

Bydden nhw hefyd yn neilltuo arian ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol neu anableddau, ynghyd â £7bn i wella adeiladau ysgolion.

‘Buddsoddi yn nyfodol ein plant’

“Mae hwn yn fuddsoddiad yn nyfodol ein plant,” meddai Jo Swinson, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Dylai ein hysgolion fod o safon fyd-eang, gan helpu pob plentyn i wneud y mwyaf o’r heriau sydd o’u blaenau.

“Ond yn hytrach, maen nhw ar ei hôl hi.

“Mae’r Ceidwadwyr wedi torri arian ysgolion i’r asgwrn ac mae plant wedi talu’r pris, yn enwedig y rheiny â’r anghenion mwyaf cymhleth.

“Mae’n warthus fod rhai ysgolion yn teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis ond gofyn i rieni gyfrannu at gyflenwadau, ac yn cau’n gynnar ar ddydd Gwener i gadw’r ddysgl yn wastad.”