Wrth lansio eu maniffesto, dywedodd y Blaid Werdd y byddan nhw’n buddsoddi £100 biliwn y flwyddyn er mwyn mynd i’r afael â chynhesu byd eang.

Fe fydd yn cynnwys deddfwriaeth ar gyfer “cytundeb gwyrdd newydd” i helpu gwledydd Prydain i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Mae’r blaid hefyd yn addo Pleidlais y Bobl ar gyfer refferendwm newydd i benderfynu beth fydd perthynas gwledydd Prydain â’r Undeb Ewropeaidd.

Wrth siarad yn lansiad swyddogol maniffesto’r blaid ddydd Mawrth (Tachwedd 19), honnodd cyd-arweinydd y blaid Jonathan Bartley mai eu cytundeb gwyrdd newydd fydd y cynllun “rhyngwladol mwyaf uchelgeisiol yn y byd.”

“Tra mae’r pleidiau eraill yn ceisio dal i fyny, rydym yn bwrw ymlaen gan gyrraedd gorwelion newydd,” meddai.

Fe fyddai’r blaid yn codi arian ar gyfer y cynllun drwy godi trethi, gan gynnwys treth gorfforaethol a fyddai’n codi i 24%.

Wrth drafod Brexit, dywedodd dirprwy arweinydd y blaid Amelia Womack: “Rydym yn cynnig yr unig ffordd ymlaen o lanast refferendwm 2016. Dy’n ni ddim am wylio wrth i eithafwyr yrru ein gwlad dros ochr dibyn.”

Mae’r blaid hefyd wedi addo cynyddu’r arian ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan o leiaf £6 biliwn y flwyddyn, sgrapio ffioedd prifysgol a chyflwyno isafswm cyflog.