Bydd Boris Johnson a Jeremy Corbyn yn mynd benben mewn dadl fyw ar y teledu heno (nos Fawrth, Tachwedd 19).

Mi fydd y ddau arweinydd yn cymryd rhan yn y ddadl deledu gyntaf yn yr ymgyrch etholiadol, a bydd yn cael ei darlledu ar ITV am awr.

Bydd y ddadl yn cael ei chynnal ar ôl i’r Goruchaf Lys yn Llundain wrthod her gyfreithiol gan y Democratiaid Rhyddfrydol a’r SNP oedd yn gwrthwynebu’r ffaith nad oedd eu harweinwyr yn rhan o’r ddadl.

Gyda’r Blaid Lafur ar ei hol hi yn y polau opiniwn, bydd ei harweinydd Jeremy Corbyn yn gobeithio ennill tir gan y Ceidwadwyr yn ystod y ddadl.

Tra bydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn ceisio osgoi rhoi’r fantais i Jeremy Corbyn.

Daw’r ddadl wrth i’r:

–    Ceidwadwyr addo y byddan nhw’n deddfu i sicrhau fod oedolion sy’n euog o ladd plant yn treulio gweddill eu bywydau dan glo oni bai fod yr amgylchiadau yn “eithriadol.”

–     canghellor cysgodol John McDonnell gyhuddo’r Ceidwadwyr o ostwng trethi i’r cyfoethog iawn, gan ddweud fod lefelau felly o gyfoeth yn “wallgof.”

–     Democratiaid Rhyddfrydol addo rhoi un geiniog ar dreth incwm er mwyn gallu rhoi £35 biliwn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

–     Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon alw am bwerau mewnfudo i gael eu datganoli o San Steffan i’r Alban.

–     Blaid Werdd lansio ei maniffesto gydag addewid i fuddsoddi £100 biliwn y flwyddyn i fynd i’r afael â chynhesu byd eang.