Mae adroddiadau bod myfyriwr dall ym Mhrifysgol Rhydychen wedi cael ei lusgo o gyfarfod gerfydd ei draed.

Mae rhai yn galw ar Brendan McGrath, llywydd Undeb y Myfyrwyr, i ymddiswyddo ar ôl i fideo ddangos Ebenezer Azamati, myfyriwr tramor 25 oed o Ghana, yn cael i lusgo o’r cyfarfod mewn gweithred sydd wedi’i disgrifio fel un “dreisgar, anghyfiawn, annynol a chywilyddus”.

Mae’r myfyriwr yn dweud nad yw’n teimlo bod croeso iddo bellach yn yr undeb, yn Rhydychen nac yn Lloegr.

Y cefndir

Mae lle i gredu bod Ebenezer Azamati, sy’n astudio cydberthynas ryngwladol, wedi cyrraedd y cyfarfod yn gynnar wrth i fyfyrwyr baratoi i drafod eu hyder yn Llywodraeth Prydain.

Fe gyrhaeddodd yn gynnar er mwyn sicrhau sedd addas yn sgil pryderon am ddiffyg darpariaeth i fyfyrwyr ag anableddau.

Fe adawodd wedyn am ginio ac wrth ddychwelyd, gwrthodwyd mynediad iddo fe i’r cyfarfod.

Yn fuan wedyn, cafodd e fynd i mewn ar ôl i ffrind gyrraedd ac fe eisteddodd e.

Ond daeth swyddogion diogelwch ato fe a’i lusgo allan o’r adeilad, cymryd ei gerdyn myfyriwr oddi arno a’i wahardd o’r Undeb.

Cafodd cyfarfod disgyblu ei drefnu’n gyflym gan Brendan McGrath, oedd yn honni bod Ebenezer Azamati wedi ymddwyn yn dreisgar drwy daflu ei freichiau o gwmpas ac ystumio’n dreisgar â’i ddwylo.

Mae’r cyhuddiad o ymddwyn yn dreisgar wedi’i dynnu’n ôl erbyn hyn, ac mae Brendan McGrath wedi ymddiheuro.

Ond mae deiseb yn galw arno i gamu o’r neilltu, rhoi’r hawl i Ebenezer Azamati gael dychwelyd i’r Undeb a rhoi iawndal iddo, a chosbi’r swyddogion diogelwch.