Mae’r Tywysog Andrew dan bwysau cynyddol i wneud datganiad ffurfiol i’r awdurdodau yn yr Unol Daleithiau yn dilyn ei gyfweliad teledu yn ymateb i’r sgandal am y  diweddar Jeffrey Epstein.

Roedd Dug Caerefrog wedi ymddangos ar raglen Newsnight y BBC ddydd Sadwrn (Tachwedd 16) i wadu honiadau ei fod wedi cael rhyw gyda merch dan oed, ac er mwyn amddiffyn ei gyfeillgarwch â’r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein. Ond mae’r Dug wedi cael ei feirniadu’n chwyrn am gymryd rhan yn y cyfweliad. Mae eraill wedi beirniadu ei ymateb i’r cwestiynau, gan ddweud nad oedd wedi dangos unrhyw gydymdeimlad nac yn edifar ei gyfeillgarwch gyda Jeffrey Epstein.

Mae cyflwynydd Newsnight, Emily Maitlis, a oedd wedi cyfweld y Dug, wedi datgelu bod y Frenhines wedi rhoi ei sêl bendith i’r cyfweliad.

Ond mae cyfreithiwr yn yr Unol Daleithiau, Spencer Kulvin, sy’n cynrychioli dynes sy’n honni ei bod yn un o ddioddefwyr Jeffrey Epstein, wedi dweud wrth raglen Today ar Radio 4, y dylai’r Tywysog Andrew helpu gyda’r ymchwiliad i’r dyn busnes.

Wrth siarad ar raglen Good Morning Britain ychwanegodd y gyfreithwraig Gloria Allred, sy’n cynrychioli menywod eraill sy’n honni eu bod yn ddioddefwyr, nad oedd hi’n gallu deall sut yr oedd Dug Caerefrog heb sylweddoli bod yna ferched dan oed yn bresennol pan oedd wedi ymweld â chartrefi Jeffrey Epstein yn Efrog Newydd, Palm Beach ac Ynysoedd y Wyryf.