Mae dyn 26 oed o Lundain wedi cael ei gyhuddo o droseddau brawychol.

Cafodd Mamun Rashid ei arestio ym maes awyr Heathrow ddydd Iau (Tachwedd 14).

Mae’n dilyn ymchwiliad gan heddlu gwrth-frawychiaeth.

Pan gafodd ei arestio, roedd e newydd ddod oddi ar awyren o Dwrci.

Bydd yn mynd gerbron ynadon Westminster yfory (dydd Llun, Tachwedd 18).