Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bygwth cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn y BBC am benderfynu hepgor Jo Swinson, yr arweinydd, o ddadleuon yr arweinwyr cyn yr etholiad cyffredinol fis nesaf.

Maen nhw’n rhybuddio bod y penderfyniad i’w hepgor, ac i ddarlledu dadl rhwng Boris Johnson a Jeremy Corbyn yn unig, yn “amlwg yn anghyfreithlon”, gan fynnu bod tair prif blaid yng ngwledydd Prydain.

Mae’r blaid eisoes wedi mynd ag ITV i’r Uchel Lys am wrthod rhoi lle i Jo Swinson mewn dadl deledu.

Bydd y ddadl rhwng Boris Johnson a Jeremy Corbyn yn Southampton yn cael ei darlledu gan y BBC ar Ragfyr 6.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae eu presenoldeb yn y ddadl yn hollbwysig er mwyn cyflwyno dwy ochr y ddadl ar Brexit, gan eu bod nhw’n cefnogi ail refferendwm.

“Mae dull y BBC yn ei hanfod yn amharchus i’r miliynau o bobol sy’n cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai’r blaid mewn llythyr.

Maen nhw’n cyhuddo’r Gorfforaeth o “gadw allan” unrhyw un sydd â barn wahanol i’r rhai sy’n cefnogi Brexit, gan ddweud bod ganddyn nhw “orfodaeth gyfreithiol” i sicrhau eu bod yn ddi-duedd.

Mae’r BBC wedi gwrthod gwneud sylw.