Mae Stephen Barclay, Ysgrifennydd Brexit San Steffan, yn dweud ei fod e “wedi digalonni” yn dilyn sylwadau Donald Tusk, llywydd Cyngor Ewrop, am y Deyrnas Unedig.

Yn ystod araith ganol yr wythnos ddiwethaf, awgrymodd Donald Tusk na ddylai gwrthwynebwyr Brexit roi’r gorau i’w hymdrechion i geisio atal ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Fe ddywedodd y byddai’r Deyrnas Unedig “ar y tu allan ac yn chwaraewr eilradd” yn dilyn Brexit, ac mai dyma fydd “diwedd yr Ymerodraeth Brydeinig”.

Ymateb Stephen Barclay

“Ro’n i wedi digalonni, wedyn, o weld sylwadau Donald Tusk – y llywydd sy’n gadael Cyngor Ewrop – yn ei araith ffarwel nos Fercher,” meddai Stephen Barclay yn y Sunday Times.

“Mae ei atgasedd tuag at Brexit yn gyfrinach agored.

“Ond o leiaf na all unrhyw un amau bellach beth yw ei wir gymhelliant.

“Fe wnaeth e ddatgan yn ddigamsyniol ei ddymuniad i atal Brexit.”

Mae’n cyhuddo Donald Tusk o “ddiystyru democratiaeth yn llwyr” ac o “sarhau deallusrwydd 17.4m o bleidleiswyr”.