Mae Andy Burnham, Maer Manceinion, yn galw ar Boris Johnson, prif weinidog Prydain, i dawelu meddyliau teuluoedd myfyrwyr sy’n byw mewn fflatiau uchel yn dilyn y tân yn Bolton.

Daw’r ple wrth i golwg360 gael ar ddeall bod myfyrwyr o Gymru ymhlith y rhai sy’n byw yn y Cube yn Bolton.

Mae difrod i bedwerydd a phumed llawr yr adeilad, sy’n gartref i nifer sylweddol o fyfyrwyr.

Dydy hi ddim yn glir beth oedd wedi achosi’r tân, ond mae’r gwasanaeth tân yn dweud nad yr un cladin sydd ar yr adeilad â’r un oedd ar adeilad Tŵr Grenfell yn Llundain.

“Fe fydd nifer o bobol yn byw mewn adeiladau â’r cladin hwn heddiw a fydd yn poeni’n arw,” meddai Andy Burnham wrth Sky News.

“Mae’r prif weinidog yn ymweld â’r lle yn nes ymlaen ac fe gawn ni weld a oes angen bellach i ni dynnu’r cladin a thawelu meddyliau’r teuluoedd hynny.

“Mae ymateb y gymuned yn Bolton wedi bod yn wych. Rydyn ni am dalu teyrnged i bawb sydd ynghlwm.”

Mae Paul Dennett, Maer Salford, yn dweud bod yr awdurdodau’n ymwybodol o gladin ar yr adeilad, a’i fod am ofyn i Lywodraeth Prydain am ragor o arian i dynnu cladin fflamadwy oddi ar adeiladau er mwyn osgoi digwyddiadau tebyg eto.

Cafodd dau o bobol driniaeth ar y safle yn dilyn y tân.

Mae ymdrechion ar y gweill i gasglu nwyddau i’r myfyrwyr hynny sydd wedi colli eiddo yn y tân, ac maen nhw wedi cael llety dros dro mewn gwestai yn yr ardal.