Menywod yw traean o’r ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Mae 1,120 o fenywod wedi cofrestru fel ymgeiswyr allan o gyfanswm o 3,322, sy’n cyfateb i 34%.

29% oedd y ffigwr yn 2017, a 26% yn 2015.

Menywod yw mwy na hanner yr ymgeiswyr Llafur – 333 allan o 631 (51%) – a hynny am y tro cyntaf erioed. 42% oedd yn fenywod yn 2017.

Dim ond 30% o ymgeiswyr Ceidwadol sy’n ferched – 190 allan o 635. 29% oedd y ffigwr y tro diwethaf.

Ffigwr y Democratiaid Rhyddfrydol yw 31%, sef 188 allan o 611 o ymgeiswyr, o’i gymharu â 29% y tro diwethaf.

Mae 41% o ymgeiswyr y Blaid Werdd yn ferched, a 34% o ymgeiswyr yr SNP.

Naw o fenywod sydd gan Blaid Cymru allan o 36 o ymgeiswyr.

20% yn unig sy’n ferch o blith ymgeiswyr Plaid Brexit – 54 allan o 275.