Mae arolwg newydd yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobol yng ngwledydd Prydain yn cydweld â barn Jeremy Corbyn ynghylch biliwnyddion.

Mae’r arolwg yn honni bod yna deimladau cryf yn erbyn biliwnyddion ymysg trigolion gwledydd Prydain.

Mae Jeremy Corbyn yn addo mynd i’r afael â chyfoeth biliwnyddion.

Ystadegau

Mae 37% o’r rhai wnaeth ymateb i arolwg YouGov yn credu bod nifer y bobol gyfoethog dros ben yn arwydd fod y gymdeithas yn gwaethygu.

Ac mae 51% o’r farn na ddylai biliwnyddion feddu ar y fath symiau o arian o dan unrhyw amgylchiadau.

Dywed 14% yn unig fod nifer y biliwnyddion yn golygu bod y gymdeithas yn gwella.

Cefnogwyr Llafur (67%) ar y cyfan sydd o’r farn na ddylid galluogi biliwnyddion i fod yn gyfoethog, gyda 92% ohonyn nhw o’r farn y dylid codi mwy o drethi arnyn nhw.

Dim ond y Ceidwadwyr sy’n cefnogi biliwnyddion ar y cyfan – dim ond 39% ohonyn nhw sy’n eu gwrthwynebu.

Serch hynny, mae 70% o Geidwadwyr hyd yn oed yn agrymu y dylid codi mwy o drethi arnyn nhw.

Er yr awgrym, dim ond 5% o bobol sydd o’r farn y byddai biliwnyddion yn fodlon talu mwy o drethi, ac 88% yn dweud y dylai Llywodraeth Prydain sicrhau bod hyn yn digwydd.

Yn ôl YouGov, mae barn y cyhoedd yn “cydsynio” â barn Jeremy Corbyn.