Mae arweinwyr gwleidyddol o wledydd Prydain ac Iwerddon yn bwriadu trafod sut i ddelio â materion sy’n eu heffeithio mewn uwchgynhadledd yn Nulyn.
Bydd Brexit yn ganolog i’r trafodaethau eleni, ynghyd a sut i ddelio gyda phroblemau yn ymwneud â chyffuriau.
Bydd uwchgynhadledd ddiweddaraf y Cyngor Prydeinig-Wyddelig yn cael ei fynychu gan gweinidogion o San Steffan a’r llywodraethau datganoledig, ynghyd a Phrif Weinidog Iwerddon Leo Varadkar.
Cafodd y cyngor ei sefydlu ugain mlynedd yn ôl gyda’r bwriad o ddod a llywodraethau’r Deyrnas Unedig ag Iwerddon yn agosach.