Masnachu pobol: cynnal cyfres o gyrchoedd yn Llundain

 
Grwp o swyddogion hedldu mewn siacedi melynwyrdd

Swyddogion heddlu

Llun parth cyhoeddus trwy Gomin Wicimedia

Mae 14 dyn, a thair dynes, wedi cael eu harestio yn Llundain ar amheuaeth o fasnachu pobol.

Cawson nhw eu harestio yn dilyn cyfres o gyrchoedd ledled y ddinas, a bellach mae 29 dynes – oll rhwng 20 a 40 oed – wedi’u hachub.

Mae’r rheiny sy yn y ddalfa rhwng 17 a 50 oed, ac mi gyfrannodd swyddogion yn Romania at y gwaith o’u dal – mae un dyn wedi’i arestio yn y wlad honno.

Yn ogystal â’r cyhuddiad o fasnachu pobol, maen nhw hefyd wedi’u cyhuddo o fod ynghlwm â phuteinio, troseddau cyffuriau dosbarth A, a throseddau arfau.

“Gwnaeth ymgyrch heddiw arwain at gyrchoedd mewn 16 lle yn Llundain, a phedwar lle yn Romania,” meddai Richard McDonagh, Ditectif Prif Arolygydd  o’r Heddlu Metropolitan.

“Nod yr ymdrech yma oedd datgymalu rhwydwaith o droseddwyr gydag un ergyd galed, a chynnig cymorth i ddioddefwyr.”

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones