Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y bydden nhw’n buddsoddi £500 miliwn mewn gwasanaethau pobol ifanc er mwyn atal troseddau cyllyll.

Dywed Jo Swinson y byddai ei phlaid, pe baen nhw’n dod i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12, yn cymryd dull iechyd cyhoeddus at ddelio â thrais ymysg pobol ifanc.

Mae’n honni y byddai buddsoddiad o £500m y flwyddyn yn “rhoi cyfleoedd positif, diogel ac iach i bobol ifanc er mwyn eu hatal rhag dod yn rhan o drais ymysg pobol ifanc a throseddau’n ymwneud â gangiau”.

“Rydym mewn epidemig troseddau cyllyll, ond mae’r llywodraeth wedi ymdrin â’r mater yn y modd anghywir,” meddai.

“Ers 25 mlynedd, mae’r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur wedi cystadlu i ymddangos yn gadarn ar droseddau, ond heb wneud digon i rwystro troseddau rhag digwydd.”