Mae’r blaid Lafur wedi cyflwyno cynllun i gynnig chwe blynedd o addysg am ddim i oedolion.

Bydd gweinidog cysgodol dros addysg Angela Rayenr yn cynnig y cyfle i astudio Lefel A am ddim i oedolion, gyda grantiau i bobol sy’n ennill cyflogau isel.

Byddai unrhyw oedolyn sydd heb Lefelau A yn cael eu hastudio am ddim mewn colegau.

Mae’r cynllun yn rhan o addewid y blaid i greu gwasanaeth addysg gwladol “o’r crud i’r bedd” i bawb.

Mae Llafur hefyd am i’r cynllun, sy’n costio mwy na £3bn, i helpu eu “chwyldro amgylcheddol” drwy roi i bobl, y sgiliau maent eu hangen i allu taclo’r argyfwng amgylcheddol.

Mi wnawn ni addysg di-gost yn hawl er mwyn sicrhau fod gennym y sgiliau i alluogi ein heconomi i godi i gyfleoedd y dyfodol, meddai Angela Rayner.