Carchar am darfu ar seremoni Sul y Cofio yn Salford
Pabi
Mae dyn 38 oed a darfodd ar seremoni Sul y Cofio trwy gynnau tân gwyllt o ffenest llofft ei fflat, wedi ei ddedfrydu i 16 wythnos o garchar.
Fe gynheuodd Stuart Potts dân gwyllt ar ddiwedd y ‘Last Post’ wrth y gofeb yn Salford, ac wrth i gannoedd o bobol blygu pen i fod yn dawel am ddau funud o dawelwch yn Eccles, Salford ddydd Sul (Tachwedd 10).
Fe blediodd yn euog i gynnau tân gwyllt mewn man cyhoeddus ac i drosedd yn ymwneud â’r drefn gyhoeddus.
Er hynny, fe geisiodd honni mai cynnau tân gwyllt fe “arwydd o barch” yr oedd.
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.