Mae Boris Johnson dan y lach yn dilyn camgymeriad sylfaenol yn ystod seremoni Sul y Cofio ger y gofeb ryfel yn Llundain.

Roedd e’n un o’r gwleidyddion oedd yn bresennol ar gyfer y seremoni flynyddol, ynghyd â Hywel Williams (Plaid Cymru), Jeremy Corbyn (Llafur), Jo Swinson (y Democratiaid Rhyddfrydol), Ian Blackford (SNP), Nigel Dodds (DUP), Lindsay Hoyle (Llefarydd Tŷ’r Cyffredin), yr Arglwydd Fowler (Llefarydd Tŷ’r Arglwyddi), a Dominic Raab a Priti Patel oedd yn cynrychioli’r cudd-wasanaethau.

Ynghyd ag aelodau’r teulu brenhinol, roedd y gwleidyddion yno i osod torch o flodau ar y gofeb yn Llundain.

Ond yn wahanol i bawb arall, fe wnaeth Boris Johnson osod ei dorch gyda’r cerdyn yn wynebu tuag at y gofeb, yn hytrach nag i ffwrdd – a hynny ar ôl iddo ddod yn agos i ollwng y dorch yn gyfangwbl.

Daw’r camgymeriad flwyddyn ar ôl i Jeremy Corbyn gael ei feirniadu am wisgo côt anaddas ar gyfer y seremoni’r llynedd.