Mae un o gewri’r Blaid Lafur yn dweud ei fod yn ‘anobeithio’ am ei blaid o dan arweiniad Jeremy Corbyn.

Dywed yr Arglwydd David Blunkett, cyn-ysgrifennydd cartref a fu’n Aelod Seneddol am 28 mlynedd, fod y tebygolrwydd o Jeremy Corbyn yn ennill mwyafrif llwyr o seddau yn “hynod o denau”.

Ar y llaw arall, mae’n pwyso ar i aelodau cymedrol Llafur aros yn rhan ohoni a dal i frwydro.

Mewn erthygl yn y Telegraph, dywed David Blunkett:

“Mae ymddygiad y chwith galed o fewn y Blaid Lafur – y gwrth-Semitiaeth, yr ymddygiad ymosodol, y barnau afresymegol ar faterion diogelwch a rhyngwladol, a’r diffyg sylweddoliad fod yn rhaid ichi gofleidio carfannau eang o bobl er mwyn ennill – yn gwneud imi anobeithio.

“Mae’r tirwedd gwleidyddol ar hyn o bryd yn gwbl wahanol i’r hyn yr hoffai’r chwith galed ichi ei gredu.

“Rydym mewn sefyllfa debyg i 1983, nid 2017 – gyda nid yn unig y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion, ond y Brexit Party, y Torïaid a’r SNP i gyd yn cystadlu o ddifrif am bleidleisiau traddodiadol Llafur.”