Mae agweddau at Islam wedi arwain at ffraeo ymysg rhai o aelodau mwyaf blaenllaw’r Blaid Geidwadol.

Roedd y cyn-gadeirydd, y Farwnes Warsi, wedi datgan ei siom nad oedd Boris Johnson yn fodlon cynnal ymchwiliad annibynnol i Islamoffobia o fewn y blaid.

Dywedodd mai “dim ond ffordd o sgorio pwyntiau gwleidyddol yw bod yn wrth-hiliol” i’r Torïaid.

Cafodd ei chythruddo ymhellach pan ddywedodd y gweinidog iechyd Matt Hancock fod eraill yn y blaid yn “cymryd agwedd fwy cytbwys na’r Farwnes Warsi”.

Ymatebodd mewn neges drydar:

“Oh @MattHancock. Thank you for ‘whitesplaining’ this to me. I’m so glad I have colleagues like you who can educate me … ‘Thousand apologies sir’.”

Yn y cyfamser, wrth gael ei holi ar y radio am sylwadau a wnaeth am ferched Mwslimaidd yn gwisgo’r Niqab yn edrych fel blychau llythyrau, dywedodd Boris Johnson:

“Dw i’n falch iawn o’m treftadaeth Fwslimaidd, gallai fy hen daid adrodd y Koran ar ei gof.”