Mae cyn-Aelod Seneddol Llafur yn galw ar bleidleiswyr i gefnogi Boris Johnson, gan ddweud fod Jeremy Corbyn fel Prif Weinidog yn “ormod o risg”.

Dyw Ian Austin ddim am sefyll yn Dudley North – sedd y mae wedi ei dal ers 2005.

Mae wedi bod yn hynod feirniadol o Jeremy Corbyn a’r blaid Lafur ers sawl blwyddyn.

“Mae’n rhaid i mi wneud popeth y gallai i stopio Jeremy Corbyn rhag ennill pŵer,” meddai.

Gadawodd Ian Austin y blaid Lafur fis Chwefror fel ymateb i beth oedd o yn ei alw yn “ddiwylliant o eithafiaeth, gwrth-semitiaeth ac anoddefgarwch.”