Mae cyn-lefarydd Tŷ’r Cyffredin yn dweud mai Brexit yw’r “camgymeriad polisi tramor mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd”.

Wrth siarad â detholiad o Gymdeithas y Wasg Dramor yn Llundain, dywedodd John Bercow ei fod nawr yn gallu rhoi ei farn ar y mater, wedi iddo orfod bod yn ddi-duedd y ystod ei amser yn Llefarydd.

Ond gwylltiodd John Bercow nifer o Aelodau Seneddol oedd o blaid Brexit oedd yn honni ei fod yn ceisio atal Brexit

“Dw i’n meddwl mai Brexit yw’r camgymeriad polisi tramor mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd, a dyna yw fy safbwynt onest,” meddai.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod yn helpu’r Deyrnas Unedig.”