Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Jo Swinson wedi dweud y byddai ei phaid y stopio Brexit ac “adeiladu dyfodol disglair”.

Daeth hyn wrth iddi lansio ymgyrch etholiadol y Blaid Ryddfrydol gan ddweud fod “newid yn bosib”.

Dywed na fyddai “byth yn stopio brwydro” dros y Deyrnas Unedig ac na fyddai yn “gadael i bobol ei ddinistrio.”

Dim am gefnogi Llywodraeth Lafur

Dywed Jo Swinson na fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi’r Blaid Lafur mewn achos o Senedd grog.

Mynnodd ei bod yn cynnig llywodraeth Ryddfrydol a bod hynny yn golygu fod “pobl angen pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol.”

“Mae angen i’n gwlad fod yn fwy uchelgeisiol ar hyn o bryd,” meddai. “Ac rydym yn codi i’r sialens oherwydd mae’r penderfyniad yma yn ymwneud â dyfodol ein gwlad am genedlaethau i ddod.”