Mae’r galw am geir newydd wedi cwympo 6.7% y mis diwetha, yn ol ystadegau diweddara’r diwydiant.

Fe gafodd 10,348 yn llai o geir eu cofrestru yn ystod mis Hydref, o gymharu â’r un mis y llynedd.

Mae’r ffigwr yn adlewyrchu cyfnod anodd i fusnesau a gwneuthurwyr.

Mae’r gostyngiad yn dod o ganlyniad i ostyngiad o 13.2% yn y nifer o brynwyr preifat.

Roedd gwerthiant ceir diesel i lawr 28.3%, tra bod gwerthiant ceir petrol i lawr 3.2%.