Lindsay Doyle yw Llefarydd newydd Tŷ’r Cyffredin yn dilyn pleidlais i ddewis olynydd i John Bercow heddiw (dydd Llun, Tachwedd 4).

Fe fu’n un o’r dirprwyon ers naw mlynedd.

Fe gurodd Chris Bryant o 325 o bleidleisiau i 213 yn y rownd derfynol.

Mae’n dweud ei bod yn bwysig i aelodau’r meinciau cefn ddal y llywodraeth i gyfrif, ac mae’n dweud nad “clwb” lle mae hirhoedledd yn teyrnasu yw Tŷ’r Cyffredin.

Mae disgwyl iddo sicrhau bod diogelwch San Steffan yn cael ei ddiwygio er mwyn cadw aelodau seneddol, eu teuluoedd a’u staff yn ddiogel.

Fe drechodd Chris Bryant, Eleanor Laing, Harriet Harman, Rosie Winterton, Edward Leigh a Meg Hillier. 

Gyrfa

Cafodd Lindsay Hoyle ei ethol yn gynghorydd yn ward Adlington ar Gyngor Bwrdeistref Chorley yn Swydd Gaerhirfryn yn 1980.

Cafodd ei ddychwelyd i’r swydd bedair gwaith yn olynol, gan ddod yn Ddirprwy Arweinydd yn 1994 ac yn Faer yn ddiweddarach.

Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Chorley yn 1997 – yr aelod seneddol Llafur cyntaf yn yr etholaeth ers 18 mlynedd.

Daeth yn Ddirprwy Lefarydd Tŷ’r Cyffredin yn 2010 yn y bleidlais gyntaf erioed, yn hytrach na’r dull traddodiadol o gael ei ddewis gan Arweinydd y Tŷ.

Daeth yn aelod o’r Cyfrin Gyngor yn 2013, a chafodd ei urddo’n farchog yn 2018 am ei wasanaeth i’r byd gwleidyddol a’r senedd.

Yr ymgeiswyr eraill

Chris Bryant – Aelod Seneddol Llafur Cwm Rhondda, cyn-weinidog a chyn-arweinydd cysgodol Tŷ’r Cyffredin

Harriet Harman – cyn-weinidog a chyn-ddirprwy arweinydd Llafur, yn cynrychioli etholaeth Peckham ac yna Camberwell

Meg Hillier – cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a chyn-weinidog sy’n cynrychioli Llafur yn etholaeth De Hackney a Shoreditch

Eleanor Laing – Aelod Seneddol Ceidwadol Epping Forest

Edward Leigh – Aelod Seneddol Ceidwadol Gainsborough, a chyn-gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Rosie Winterton – Aelod Seneddol Llafur Canol Doncaster, a chyn-Brif Chwip  

Y rownd gyntaf

Lindsay Hoyle oedd ar y blaen ar ôl y rownd gyntaf gyda 211 allan o 562 o bleidleisiau, gydag Eleanor Laing yn ail gyda 113, Chris Bryant yn drydydd gyda 98, Harriet Harman yn bedwerydd gyda 72 a Rosie Winterton yn bumed gyda 46.

Gadawodd Meg Hillier (10) a Syr Edward Leigh (12) y ras ar ôl y rownd honno.

562 o bleidleisiau a gafodd eu cyfrif yn y rownd.

Yr ail rownd

Enillodd Lindsay Hoyle 244 o bleidleisiau yn yr ail rownd, gydag Eleanor Laing yn ail gyda 122, Chris Bryant yn drydydd gyda 120 a Harriet Harman yn bedwerydd gyda 59.

Gadawodd Rosie Winterton y ras gyda 30 o bleidleisiau, ac fe dynnodd Harriet Harman ei henw o’r ras.

575 o bleidleisiau a gafodd eu cyfrif yn y rownd.

Y drydedd rownd

Tri oedd yn y ras o hyd erbyn y drydedd rownd – Lindsay Hoyle, Eleanor Laing a Chris Bryant.

Ar ddiwedd y rownd, roedd gan Lindsay Hoyle 267 o bleidleisiau a Chris Bryant 169.

Roedd Eleanor Laing allan o’r ras ar ôl cael 127 o bleidleisiau, gyda Chris Bryant yn symud i’r ail safle.

Roedd 565 o bleidleisiau i gyd, gyda dau bapur wedi cael eu difetha ac am nad oedd gan unrhyw un 50% o’r bleidlais, aeth y ras i bedwaredd rownd.

Y bedwaredd rownd

Dim ond Lindsay Hoyle a Chris Bryant oedd ar ôl yn y bedwaredd rownd, a chafodd Lindsay Hoyle ei ethol gyda 325 o bleidleisiau.

Fe gafodd Chris Bryant 213 o bleidleisiau.

540 o bleidleisiau a gafodd eu bwrw, gyda dau bapur wedi’u difetha.

Y broses o ddewis y Llefarydd

Naw ymgeisydd oedd yn y ras cyn i Shailesh Vara a Henry Bellingham dynnu eu henwau’n ôl cyn dechrau’r bleidlais.

Mae angen cael cefnogaeth rhwng 12 a 15 o aelodau seneddol er mwyn cael bod yn y ras.

Mae’r holl ymgeiswyr yn amlinellu eu rhesymau dros sefyll mewn areithiau gerbron aelodau seneddol cyn iddyn nhw fwrw eu pleidlais.

Mae angen o leiaf 50% o’r bleidlais ar yr enillydd – fel arall, mae ail bleidlais yn cael ei chynnal ac aelodau seneddol yn cael eu dileu fesul un hyd nes bod enillydd amlwg.

Mae aelodau seneddol wedyn yn rhoi eu sêl bendith i’r enillydd cyn derbyn y person hwnnw i’r swydd.