Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r darlledwr a newyddiadurwr Gay Byrne o Iwerddon, sydd wedi marw’n 85 oed.

Bu farw darlledwr RTE a chyn-gyflwynydd The Late Late Show, sy’n dad i ddau o blant, yn Howth gyda’i deulu o’i gwmpas. Roedd e wedi bod yn cael triniaeth am ganser.

Bywyd a gyrfa

Cafodd ei eni yn Nulyn yn 1934.

Dechreuodd ei yrfa’n darllen y newyddion ac yn cyhoeddi rhaglenni ar orsaf Radio Eirann yn y 1950au.

Aeth yn ei flaen i Granada Television ym Manceinion, lle bu’n gweithio ar amrywiaeth o raglenni, ac yn cyfweld â’r Beatles.

Fe fu’n teithio rhwng Dulyn a Llundain am gyfnod wrth weithio i’r BBC ac RTE ar yr un pryd.

Ond daeth yn gyflwynydd The Late Late Show yn y 1960au a dychwelyd yn barhaol i Ddulyn.

Teyrngedau

Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrngedau iddo mae Leo Varadkar, prif weinidog Iwerddon, a Michael D Higgins, arlywydd y wlad.

Dywed Leo Varadkar mai Gay Byrne yw’r “darlledwr mwyaf dylanwadol yn hanes y wladwriaeth” ac yn “ffigwr a newidiodd Iwerddon er gwell mewn cynifer o ffyrdd”.

Yn ôl Michael D Higgins, roedd gan Gay Byrne “gryn garisma”.

“Roedd Gay Byrne yn rhywun oedd yn llawn cynhesrwydd a phresenoldeb, dyn serchus a oedd yn meddu ar ffraethineb di-ymdrech a chanddo gryn allu darlledu.

“Roedd hyn ynghyd â bod yn berson addfwyn, llawn proffesiynoldeb a hiwmor.”

Mae’n dweud iddo “herio cymdeithas Iwerddon drwy ei waith radio a theledu”, gan “daflu goleuni nid yn unig ar ochr lachar ond ochr dywyll bywyd yn Iwerddon hefyd”.

Mae’n dweud ei fod e’n “un o’r lleisiau mwyaf cyfarwydd ac adnabyddus yn ein hoes ni”, gan “helpu i siapio ein cydwybod, ein hunanddelwedd a’n syniad o bwy ydyn ni”.

Mae’n dweud bod ganddo fe “syniad go dda o’r hyn oedd yn gyfiawn”.