Mae ansicrwydd dros Brexit wedi costio dros £1m yr un i fusnesau bach dros y tair mlynedd diwethaf, yn ôl ymchwil newydd gan y cwmni CitySprint.

Dim ond traean o’r 1,000 o fusnesau bach a holwyd ar gyfer yr ymchwil a ddywedodd eu bod wedi gweld hysbyseb paratoi am Brexit y llywodraeth.

Dywed un ymhob pump nad oedden wedi derbyn unrhyw arweinad na chefnogaeth gan y llywodraeth ers 2016.

Tra bod hanner y busnesau yn credu nad yw’r llywodraeth wedi gwneud digon i helpu busnesau i baratoi ar gyfer Brexit.